Pencampwriaethau Cwis y Gwledydd Celtaidd

Mae Pencampwriaethau Cwis y Gwledydd Celtaidd yn dod â’r Alban, Iwerddon a Chymru at eu gilydd ar gyfer y cystadleuaeth mwyaf gynhwysol cwisio rhyngwladol, lle gallai unrhyw un gyfrannu at lwyddiant neu fethiant eu gwlad!

Carfan Cymru ym Mhencampwriaethau Cwis y Gwledydd Celtaidd 2016 yng Nghaeredin, Yr Alban

Yn digwydd bob mis Ebrill, mae’r lleoliad yn cylchdroi rhwng y tair gwlad. Ar draws y penwythnos, mae pob gwlad yn ennill pwyntiau o’r gwahanol gwisiau i benderfynu ar y brif genedl. Mae cwisiau Unigol a Pharau y gall pawb gymryd rhan ynddynt, gyda’r 16 uchaf o bob cenedl a’r 8 pâr yn cyfrannu pwyntiau at y gystadleuaeth gyffredinol, gan wneud pob cystadleuydd yn hollbwysig i dynged eu gwlad. Mae’r timau cenedlaethol A, B, C a D hefyd yn wynebu dwy set o gwisiau tîm gyda phob gêm yn bwysig i anrhydedd cenedlaethol.

Gyda chwisio cymdeithasol yn hwyr yn y nosweithiau hefyd, mae’r Gwledydd Celtaidd yn gyflwyniad gwych i fyd cwisio cystadleuol, fel bydd y deg newydd o Gymru yn nigwyddiad 2018 dystio! Gwyliwch am fanylion llawn yn y Calendr yn y bar ochr neu yn adran Newyddion o’r wefan yma.

Cwisio’n hwyr i fewn i’r noson ym Mhencampwriaeth 2017 yn Nulun (aeth y rownd yma o Last Man Standing yn hwyrach na 11 pm)