Diolch i’r twf aruthrol yn y sîn cwisio yn ystod y blynyddoedd diwethaf, prin yw’r wythnos sy’n mynd heibio heb gyfle i gael cwis yn erbyn ymennydd gorau Prydain. Mae’r mwyafrif o ddigwyddiadau cwis cystadleuol yn cynnig diwrnod cyfan neu hyd yn oed penwythnos o gwisio, gydag ystod o gwisiau cymdeithasol ochr yn ochr â’r busnes cystadleuol.
Mewn nifer o ddigwyddiadau, y prif gwis fydd y gystadleuaeth Unigol. Mae’r rhain yn bapurau ysgrifenedig wedi’u cynllunio i brofi pawb yn erbyn yr un cwestiynau ar yr un pryd. Bydd nifer y cwestiynau a’r amser a ganiateir yn amrywio ond mae’r her yn parhau yr un peth.
Mae cwisio mewn parau yn ymestyn y fformat ysgrifenedig gyda chwestiynau mwy cymhleth sydd angen dau ben i ddatrus yr atebion dros nifer o rowndiau. Fformat poblogaidd yn Ewrop, mae bellach yn nodwedd o nifer o ddigwyddiadau yn y DU.
Mae amrywiaeth ddiddiwedd o ffurfiau cwis tîm, o gwisio dafarn traddodiadol, i gwisio ar y botwm fel fformat University Challenge. Mae digwyddiadau tîm rhyngwladol yn defnyddio’r fformat unigryw “Chocolate Box”, lle mae strategaeth a ffortiwn yn chwarae rhan fawr wrth dod at y canlyniad.
Ar y tudalennau hyn, cewch wybod mwy am yr amrywiaeth eang o ddigwyddiadau sy’n digwydd ledled y wlad a thu hwnt. Mae pob un ohonynt ar agor i unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan, felly os ydych chi’n hoffi rhoi cynnig arni, dilynwch y dolenni neu gwyliwch am fanylion y digwyddiadau sydd i ddod yn ein dyddiadur.