Olympiad Cwis

Gan ddod â’r gorau o’r ysbryd Olympaidd i fyd cwisio cystadleuol, mae’r Olympiad Cwis yn dod â chwiswyr y byd gyda’i gilydd bob pedair blynedd ar gyfer digwyddiad cwis lleoliad sengl mwyaf a mwyaf mawreddog y blaned.

Mae’r Olympiad Cwisio yn cael ei cynnal ym mos Tachwedd o bob blwyddyn Olypaidd, gan gynnwys European Quizzing Championships y blwyddyn hwnnw. Mae’r digwyddiad yn dechrau nos Iau gyda rowndiau rhagbrofol pencampwriaeth y Timau Cenedlaethol. Mae’r Cwpan Aspirational cyfochrog yn caniatáu i bawb wynebu her y cwis tîm anoddaf sydd ar gael, gyda llawer o wledydd yn maesu timau B a C yn y digwyddiad.

Mae’r Quizathlon yn cynryd y rhan fwyaf o ddydd Gwener. Mae’r digwyddiad unigryw hwn yn gweld cystadleuwyr yn wynebu chwe chwis arbenigol, gyda dewis o bynciau uchel-ael neu isel-ael ym mhob rownd. Yn ogystal â gwobrau unigol ar gyfer pob pwnc, mae anrhydeddau ar gyfer y perfformiadau unigol gorau yn y categorïau uchel-ael ac is-ael, ynghyd â chystadleuaeth tîm cenedlaethol lle mae’r sgôr gorau ym mhob un o’r deuddeg pwnc yn cael ei gyfuno, sy’n golygu y gallai unrhyw un helpu i’w tîm cenedlaethol ennill medal.

Cystadleuaeth brwd o’r cystadleuaeth parau yn Olympiad 2016 yn Athen, Gwlad Groeg (Llun: © International Quizzing Association)

Yn hwyrach ar ddydd Gwener, mae’r Cwis Cyflymdra yn cynnig y prawf unigryw o 80 cwestiwn amlddewis mewn dim ond dau funud, ac yna Cwis Knockout lle gallwch fynd yn ôl yn erbyn cwiswyr o bob cwr o’r byd nes bod eich gwybodaeth a’ch lwc yn rhedeg allan !

Ar ddydd Sadwrn, coronir y pencampwr unigol, gyda chwis ysgrifenedig wedi’i ddilyn gan rownd derfynol arbennig lle mae’r deg uchaf yn y byd yn cystadlu yn erbyn eu gilydd – felly pennir tynged y teitl cwestiwn i gwestiwn. Nos Sadwrn yw cwis tafarn anoddaf yn y byd, wrth i dimau clwb o bob gwlad gystadlu am Bencampwriaeth y Byd yn eu maes.

Mae’r Sul yn agor gyda phencampwriaeth y Parau, cyfle i gwestiynwyr o wahanol wledydd gyfuno eu doniau, neu i’r barau gorau o un wlad i ymgymryd â gweddill y byd. Ac mae’r penwythnos yn gorffen gyda’r gemau terfynol ym mhencampwriaeth y Timau Cenedlaethol, sy’n cynrychioli pinacl cwisio tīmau rhyngwladol.

Rydym yn barod yn paratoi am yr Olympiad nesaf, i’w cynnal ym Memphis yn 2020, a gallwch canfod manylion yn agosach i’r dyddiad ar:

Quiz Olympiad

International Quizzing Association

@worldquiz