Hanes

Daw tarddiad Sefydliad Cwis Cymru o Bencampwriaethau Cwis Ewropeaidd cyntaf a gynhaliwyd yn Ghent, Gwlad Belg yn 2004. Mynychodd David Edwards a Richard Parnell y digwyddiad, gan ffurfio hanner y tîm Cyfunol Celtaidd a heriodd garfan Norwy ar gyrion y twrnamaint.

Roedd yn amlwg y dylai Cymru roi tîm ymlaen i herio gweddill y cyfandir ac yn 2005 yn Tallinn, Estonia, ymgymerodd tîm Cymru gyntaf yr her honno, gyda Mark Labbett, Richard Parnell, Mark Grant a Sean O’Neill yn chwifio’r Draig Goch gyda balchder.

O dan gapteniaeth Mark Labbett ac yna David Edwards, sefydlwyd tîm Cymru yn gyflym yn hanner uchaf y safleoedd Ewropeaidd. Ym Mhencampwriaethau Cwis Ewropeaidd Ewrop, llwyddwyd i gyrraedd y rownd medal am y tro cyntaf, er bod colli i Wlad Belg a Estonia yn y camau colli ac allan yn golygu’r rhwystredigaeth o orffen ym 4ydd lle.

Tîm Cymru a orffennodd yn y 4ydd safle ym Mehencampriaeth Cwisio Ewrop 2010 yn Derby, Lloegr (Chwith i’r dde: Gareth Kingston, David Edwards, Mark Grant, Sean O’Neill)

Daeth trobwynt arall yn 2013, wrth i Gymru, yr Alban ac Iwerddon ddod ynghyd yng Nghaeredin ar gyfer y Pencampwriaethau Cwis Gwledydd Celtaidd cyntaf. Elwodd Cymru o’r cystadleuaeth ychwanegol yn fuan wedyn, yn cyrraedd rowndiau’r medalau ym Mhencampwriaethau Cwis Ewrop y flwyddyn ganlynol. Bu’r y tîm unwaith eto yn cael ei rwystro wrth i Wlad Belg a Norwy eu gwthio yn ôl i’r 4ydd lle am yr ail dro.

Tîm Cymru a orffennodd yn 4ydd ym Mehencampriaeth Cwisio Ewrop 2014 ym Mucarest, Rwmania (Chwith i’r dde: David Edwards, Gareth Kingston, Mark Grant, Ian Orriss)

Roedd yr Olympiad Cwis cyntaf yn Athen yn 2016 yn cynnig gobaith pellach i Gymru wrth i’r tîm cyrraedd gêm medal unwaith eto, ond rhwystredigaeth unwaith eto wrth i Norwy ein curo yn y gem ail-gyfle am y medel efydddd. Cafwyd cyfle arall ar gyfer llwyddiant cenedlaethol yn y Quizathlon ond dim ond dwbl oedd y rhwystredigaeth wrth i Gymru gael eu wthio i’r 3ydd lle gan berfformiad arall gan – pwy ond – Norwy arall eto.

Er ein bod yn falch o’n hanes, rydym yn benderfynol o wneud ein dyfodol hyd yn oed yn fwy disglair, fel rydym yn gobeithio bydd gweddill y wefan hon yn dangos!