Pencampwriaethau Cwis y Byd

Yn syml, Pencampwriaethau Cwis y Byd yw’r cwis mwyaf a gorau ar y blaned!

Cymerodd dros 2,800 o gwiswyr o 45 o wledydd ran yn y Pencampwriaeth eleni, gyda 100 o leoliadau o gwmpas y byd yn cynnal cystadleuwyr dros y dydd Sadwrn cyntaf ym mis Mehefin. Mae cwis y pencampwriaeth yn cynnwys 240 o gwestiynnau wedi eu rhannu dros wyth o gategorïau (Diwylliant, Adloniant, Hanes, Ffordd o Fyw, Y Cyfryngau, Gwyddoniaethau, Chwaraeon a Mabolgampau, a’r Byd) ac yn cael eu hateb dros ddwy awr.

Gyda’r cwestiynau yn cael eu hosod gan bwyllgor rhyngwladol, dyma’r prawf uchaf o ehangder eich gwybodaeth, yn ddaearyddol ac ym mhob agwedd arall. Ond beth bynnag yw eich lefel o gwisio, ni fydd unrhyw ddigwyddiad arall yn rhoi’r cyfle i chi weld sut rydych yn cymharu yn erbyn cystadleuwyr o mor bell â Japan, Seland Newydd a Madagascar.

Yn lleoliadau ym Mhrydain, mae’r prif gwis yn cael ei ddilyn yn draddodiadol gan Last Man Standing (lle gallwch cystadlu’n uniongyrchol yn erbyn cwiswyr eraill mewn fformat gyfarwydd o bosib) a’r Cwis Cerddoriaeth, sydd wedi hen ennill ei blwyf, a lle mae’r wobr i’r ennillydd yw ysgrifennu’r cwestiynau am flwyddyn nesaf! Mae mynediad ar agor i unrhyw un, felly os hoffech roi cynnig arni, gwyliwch am fanylion yn:

World Quizzing Championships

International Quizzing Association

@worldquiz