Pencampwriaethau Cwis Ewrop

Y twrnamaint cwis rhyngwladol gwreiddiol, Pencampwriaethau Cwis Ewropeaidd yw’r cwis unigol mwyaf a mwyaf mawreddog yn y byd. Wedi’i gynnal dros benwythnos ym mis Tachwedd mewn prif ddinas yn Ewrop, mae’r Pencampwriaethau’n cynnwys pum prif gystadleuaeth ynghyd â nifer o gwisiau llai a llawer o gwisiau anffurfiol a chymdeithasol.

Y tlysau ar gyfer y tri prif teitl ym Mhencampwriaethau Cwis Ewrop

Mae’r penwythnos yn agor nos Wener gyda rowndiau cymwys Cwpan y Gwledydd. Mae’r Cwpan Dyhead cyfochrog yn caniatáu i bawb wynebu her y cwis tîm anoddaf ar gael, gyda llawer o wledydd efo thimau B a C yn y digwyddiad.

Ar ddydd Sadwrn, coronir y pencampwr unigol, gyda chwis ysgrifenedig yn cael ei dilyn gan rownd derfynol arbennig lle mae deg ymgeisydd uchaf y cyfandir yn mynd pen-i-ben, gyda thynged y teitl yn cael ei pennu cwestiwn wrth gwestiwn. Ar nos Sadwrn gwelir cwis tafarn anodda’r byd, wrth i Dimau Clwb o bob gwlad gystadlu am Bencampwriaeth y Byd yn eu maes.

Mae’r Sul yn agor gyda phencampwriaeth y Parau, cyfle i gwiswyr o wahanol wledydd gyfuno eu doniau neu i’r barau gorau o un wlad i ymgymryd â gweddill y byd. Ac mae’r penwythnos yn gorffen gyda’r gemau terfynol yn Cwpan y Cenhedloedd, pinacl rhyngwladol cwisio tîm.

Gyda digonedd o gyfleoedd i gymdeithasu neu ymweld a’r golygfeydd, mae’n ddigwyddiad rhyfeddol sy’n croesawu pawb sy’n dod. Gallwch ddod o hyd i fanylion llawn yn:

European Quizzing Championships

International Quizzing Association

@worldquiz