Cyrff Llywodraethu
Mae’n cydweithwyr o gwmpas y byd yn gweithio’n ddiflino i drefnu twrnameintiau cwis mwyaf a gorau’r byd ac rydym yn falch i gefnogi eu hymdrechion:
International Quizzing Association
Cyfryngau Cymdeithasol
Deallwn nid yw pawb yn defnyddio Facebook a Twitter, ond byddai’n amhosib gwadu cyfraniad pwysig cyfryngau cymdeithasol i dyfu cwisio cystadleuol yn y DU yn ystod y degawd diwethaf. Os ydych am gymryd rhan yn y drafodaeth a chanfod mwy am bopeth sy’n digwydd, rydym yn argymell:
Quiz Discussion Group – Heb os, canolfan bydysawd cwisio yn y DU, mae QDG yn dod â holl newyddion digwyddiadau cwisio cystadleuol gyda’i gilydd. Mae yno hefyd trafodaeth manwl o’r raglenni cwis diweddar ar teledu a radio
Quiz Questions Group – Y ffynhonnell gorau am gwestiynnau ar Facebook, gyda llawer o gwisau reolaidd, yn ogystal â a llwythi o ffeithiay difyr a chwestiynnau o’r newyddion
Cwisiau ar-lein
Os ydych am wella’ch sgiliau chwisio, does dim byd gwell na gwynebu mwy o gwestiynau mewn amgylchedd cystadleuol. Wrth gwrs mae cannoedd o safleoedd ar gael yn cynnig ugeiniau o gwisiau, ond am y cwestiynau gorau a’r gwrthwynebwyr gorau, rydym yn argymell:
Learned League – Y gystadleuaeth cwis un-i-un mwyaf yn y byd, mae’r rhan fwyaf o gwiswyr gorau America (a nifer fawr o sêr Prydain hefyd) yn profi eu hunain yn erbyn cymysgedd o gwisiau cyffrediniol dyddiol a chwisiau ar destunau penodol.
FleetWit – Gyda chymysgedd o gwisiau byw bob dydd a rasus a heriau un-i-un, mae FleetWit yn cynnig ystod eang o gwisiau i ennill pres lle mae cyflymder a sgiliau yn chwarae eu rhan
QuizUp – Heriwch ein hun yn erbyn ystod anferth o gwestiynnau sydyn, neu heriwch cwiswyr o bedwar ban y byd gyda thablau safle misol mesul testun a gwlad i gadw’ch awydd o gystadlu yn frwd
Sporcle – Mae casgliad anferth Sporcle o gwisiau rhestr yn ffordd wych i ddysgu ffeithiau
Adolygu
Os mae’n well gennych darllen y ffeithiau, mae hefyd nifer o safleoedd sy’n arbennigo mewn deynydd o gymorth o gwiswyr:
Quiz Revision Notes – Mae nodiadau adolygu Keith Andrew, sydd yn rheolaidd yn gosod cwestiynau Grand Prix yn cynnwys ystod eang o ffeithiau allweddol ar draws categorïau’r Grand Prix ac yn cynnwys cwisiau i brofi eich gwybodaeth uwch.
JustQuiz – Mae blog yr ysgrifennwr cwestiynnau profiadol Paul Philpot yn llawn o gwestiynnau wedi’u llunio i brofi’ch hyddysgrwydd
You Gotta Know – Mae’r blog fisol hon o gylch cwis academaidd yr UD yn ganllaw gwych i gwestiynau cyffredin mewn ystod o gategorïau, gan eich helpu i ddyfalu’n well ar gyfer y marciau ychwanegol holl bwysig
Apps Cwisio
Gallwch wrth gwrs hefyd cwisio tra allan ac mae yna rai apps ardderchog i gynnal eich sgiliau cwisio
HQ Trivia / HQ Trivia – Mae’r app trivia byw gwreiddiol yn cynnig cwisiau colli ac allan dwywaith y dydd gyda chyflwynwyr go iawn, cwestiynau heriol a gwobrau arian parod
Q Live / Q Live – Mae app cwis byw y DU yn rhoi lle amlwg i gwisiau colli ac allan dwywaith y dydd a’r bonws Golden Q rheolaidd
TriviaList / TriviaList – O’r bechgyn sy’n dod â’r Beano i chi, mae’r app hwn yn arbenigo mewn cwestiynau wedi’u seilio ar restrau