Mae Sefydliad Cwis Cymru yn bodoli i hyrwyddo cyfranogi mewn cwisio cystadleuol i bawb sy’n byw yng Nghymru neu sy’n dod o Gymru.
Mae cwisiau teledu a radio, a ydynt yn hen ffefrynnau fel Mastermind a Brain of Britain neu glasuron modern fel Fifteen-to-One, yn dangos talentau anhygoel y goreuon o bencampwyr cwis y DU. Ond mae’r darllediadau byr hynny ddim ond yn crafu wyneb cwisio ar y lefel uchaf yng Nghymru ac ar draws Ynysoedd Prydain. Prin fod penwythnos yn mynd heibio heb gwiswyr yn dod at ei gilydd rhywle yn y DU i herio eu hunain yn erbyn y cwestiynau anoddaf a’r gwrthwynebwyr gorau yn y maes.
Mae llawer o’r cystadleuwyr yn y digwyddiadau hyn wedi profi eu hunain yn y cwisiau darlledu hynny, ond mae nifer cyffelyb wedi dod o hyd i lwyddiant ar ein sgriniau ar ôl rhoi eu sgiliau mewn cystadlaethau ledled y wlad. Ac mae digon o gystadleuwyr jyst yn mwynhau profi eu hymenyddiau a rhannu cyfeillgarwch y gymuned cwisio.
Ers 2005, mae Sefydliad Cwis Cymru wedi bod yn gyfrifol am dimau Cymru sy’n cystadlu yn yr Olympiad Cwisio a Phencampwriaeth Cwis Ewrop, y digwyddiadau tîm rhyngwladol mwyaf mawreddog ym myd cwis. Rydyn ni hefyd yn rhannu dyletswyddau cynnal Pencampwriaethau Cwis y Gwledydd Celtaidd gyda’n cydweithwyr yn yr Alban ac Iwerddon, gan ddod â chwisio rhyngwladol o safon uchel i Gymru bob tair blynedd.
Drwy gydol y flwyddyn rydyn ni’n gweithio i helpu cwiswyr Cymru i gymryd rhan mewn cwisio cystadleuol, a hynny trwy’r digwyddiadau a drefnwn dan nawdd Cymdeithas Cwisio Prydain neu trwy’r nifer o ddigwyddiadau a gynhelir gan ein haelodau a’n ffrindiau i fyny ac i lawr y DU.
Rydym yn sylweddoli y gall fod yn frawychus cymryd y cam cyntaf hwnnw y tu hwnt i’ch cynghrair cwis neu gwis tafarn leol, a dyna pam yr ydym wedi llunio’r wefan hon i ddweud wrthych chi am yr hyn a wnawn a’r digwyddiadau yr ydym yn eu mynychu a threfnu.