Pencampwriaeth Cwis Prydain

Daw’r diwrnod mwyaf mawreddog o gwisio ym Mhrydain ar ddydd Sadwrn cyntaf mis Medi, wrth i gwiswyr o bob cwr o Ynysoedd Prydain dod at ei gilydd ar gyfer Pencampwriaethau Cwis Prydain.

Cyntaf yw’r bencampwriaeth unigol gyda 240 o gwestiynau mewn chwe testun dros ddwy awr i benderfynu ennillydd Tlws Mark Bytheway.

Kevin Ashman yn derbyn Tlws Mark Bytheway fel Pencampwr Cwisio Prydain am y 6ed tro – y record – yn 2017 (Llun: © British Quizzing Association)

Mae pencampwriaeth y Parau yn cynnig her wahanol, gyda llu o gwestiynau byr sydd angen dau ben i’w hateb. Er bod llawer o bartneriaethau wedi bod yn llwyddiannus flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae parau munud olaf a drefnwyd ar y diwrnod hefyd wedi cael llwyddiant, er enghraifft Jeff Evans a Brian Chesney o Gymru a gymerodd y teitl yn 2016.

Mae mynediad ar agor i unrhyw un, felly os hoffech roi cynnig arni, gwyliwch am fanylion yn:

British Quizzing Association

British Quizzing Association