Cyfres Grand Prix BQA Quest

Digwyddiad misol rheolaidd Prydain o gwisio cystadleuol, mae’r Cyfres Grand Prix Quest wedi bod wrth wraidd cyrchfan cwis cenedlaethol ers dros ddegawd.

Fe’i cynhelir ar ddydd Sadwrn cyntaf bob mis. Mae digwyddiadau Quest yn dechrau gyda chwis unigol Grand Prix, wedi’i rannu’n bapur 90 munud yn chwe chategori gyda 180 o gwestiynau safonol a 60 o gwestiynnau datglwm super-anodd. Gyda gwobrau ym mhob categori ac yn gyffredinol, mae rhywbeth i bawb rhoi cynnig arni.

Rhywfaint o’r cwestiynnau o gystadleuaeth Grand Prix Awst 2018

Mae canlyniadau pob Grand Prix yn cyfrif hefyd (yn ogystal a chanlynidau pencampwriaethau’r Byd, Ewrop a Phrydain) tuag at Urdd Teilyngdod a Safleoedd Gydol Oes, sy’n golygu y gallwch cymharu eich hunain yn erbyn cwiswyr gorau’r DU.

Yn y prynhawn mae cwis tîm gyda’r timau wedi’u dosbarthu gan eu canlyniadau yn y Grand Prix, gan olygu bod gennych chi amser difyr a chystadleuol, waeth beth ydych chi wedi’i wneud. Ac mae’r diwrnod yn gorffen gyda’r papur 100, papur unigol hyd awr gyda thema ryngwladol sy’n cyfrif tuag at Safleoedd Cwisio Rhyngwladol.

Mae’r mwyafrif o ddigwyddiadau Quest nawr yn cael eu cynnal mewn nifer o lleoliadau o gwmpas y DU gyda chwiswyr Cymreig yn cystadlu mewn llawer o’r rhain, felly os ydych chi am weld sut rydych chi’n mesur i fyny mae’n siŵr o fod cyfle yn agos. Mae’r holl fanylion i’w gweld yn:

British Quizzing Association

British Quizzing Association