Cymhwysedd

Credwn yn gryf y bydd cyfranogaeth gan bobl o bob cenedl a dim cenedl ond yn gallu cryfhau cwisio yng Nghymru. Yn unol â hynny, rydym yn croesawu pob cwiswr i’n gwefan, sianelau cyfryngau cymdeithasol, ac i bob digwyddiad cwis a gynhelir yng Nghymru.

Serch hynny, ni allai cystadlaethau rhyngwladol weithredu heb rywfaint o sicrwydd ynglŷn â chymhwyster cwisiwr i’w dewis ar gyfer ochr genedlaethol benodol. Mae Sefydliad Cwis Cymru yn cymeradwyo ac yn cydymffurfio â meini prawf cymhwysterau’r Gymdeithas Cwisio Rhyngwladol a nodir yn llawn yma. I grynhoi, byddwch chi’n gymwys i gystadlu am dîm Cymru mewn cystadleuaeth swyddogol os:

  • Fe’ch ganwyd yng Nghymru; neu
  • Ganwyd unrhyw un o’ch rhieni biolegol neu’ch neiniau a theidiau yng Nghymru; neu
  • Rydych chi’n ddinesydd Prydeinig ac wedi byw’n barhaus yng Nghymru am o leiaf dair blynedd.

Os ydych chi’n ansicr o’ch cymhwyster i gystadlu am Gymru, cysylltwch â ni yn uniongyrchol.